Datganiad hygyrchedd

Cyfieithiad o'r dudalen Saesneg yw'r dudalen hon. Os bydd unrhyw wahaniaeth rhwng y fersiwn Gymraeg a'r fersiwn Saesneg, y fersiwn Saesneg fydd yn gywir.

Mae'r datganiad hwn yn berthnasol i'r gwasanaeth Holistic Audio Recording Distribution (H.A.R.D.) cyfan. Mae hyn yn cynnwys porth y Darparwr Asesu a DWP a ddefnyddir gan staff, a thaith yr hawlydd y cyrhaeddir ato drwy'r ddolen neges destun ddiogel.

Defnyddio'r gwasanaeth hwn

Mae'r gwasanaeth hwn yn cael ei redeg gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Rydyn ni eisiau i gymaint o bobl â phosibl allu ei ddefnyddio. Dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau gan ddefnyddio gosodiadau eich porwr neu ddyfais
  • chwyddo i mewn hyd at 400% heb i'r testun orlifo oddi ar y sgrin
  • llywio'r rhan fwyaf o'r gwasanaeth gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio'r rhan fwyaf o'r gwasanaeth gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r gwasanaeth gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydyn ni hefyd wedi gwneud y testun yn y gwasanaeth mor syml â phosibl i'w ddeall.

Pa mor hygyrch yw'r gwasanaeth hwn

Mae'r gwasanaeth hwn wedi'i ddylunio a'i adeiladu i fodloni safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) fersiwn 2.2. Nid ydym yn ymwybodol o unrhyw ran o'r gwasanaeth sy'n methu â bodloni'r safon hon.

Beth i'w wneud os na allwch ddefnyddio un o'n dogfennau

Rydyn ni bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd ein gwasanaeth. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych yn meddwl nad ydyn ni'n bodloni gofynion hygyrchedd, Cysylltwch â DWP ynghylch hygyrchedd.

Gallwch hefyd gysylltu â ni os oes angen dogfen rydyn ni wedi'i chyhoeddi mewn fformat hygyrch.

Y weithdrefn orfodi

Yr Equality and Human Rights Commission (EHRC) sy'n gyfrifol am orfodi'r Public Sector Bodies (Websites and Mobile Applications) (No. 2) Accessibility Regulations 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn hapus â'r ffordd rydyn ni'n ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Equality Advisory and Support Service (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y gwasanaeth hwn

Mae DWP wedi ymrwymo i wneud y gwasanaeth hwn yn hygyrch, yn unol â'r rheoliadau hygyrchedd. Mae'r gwasanaeth hwn yn cydymffurfio'n llawn â safon AA WCAG fersiwn 2.2.

Cynnwys nad yw'n hygyrch

Nid ydym yn ymwybodol o unrhyw gynnwys ar y gwasanaeth hwn nad yw'n hygyrch. Os byddwn yn nodi unrhyw gynnwys o'r fath, byddwn yn ei restru yma, gyda'r rheswm a'r dyddiad rydyn ni'n disgwyl ei drwsio.

Paratoi'r datganiad hwn

Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 28 Mehefin 2026. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 28 Mehefin 2026.

Cafodd y gwasanaeth hwn ei brofi ddiwethaf ar 28 Mehefin 2026. Cafodd y prawf ei gynnal yn fewnol yn erbyn safon AA WCAG 2.2, a chanfuwyd bod y gwasanaeth yn cydymffurfio'n llawn. Rydyn ni'n cadw'r gwasanaeth dan adolygiad ac yn ei brofi'n rheolaidd i gynnal y safon honno.